Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o geisio lladd bachgen yn ei arddegau mewn achos brawychol honedig, wedi ymddangos gerbron llys.

Mae’r erlyniad yn honni i Vincent Fuller, 50, estyn i mewn trwy ffenestr car a dal cyllell at wddw a phen Dimitar Mihaylov, 19, ym maes parcio archfarchnad Tesco yn Stanwell nos Sadwrn diwethaf (Mawrth 16).

Y gred ydi fod dioddefwr yr ymosodiad yn hanu o Bwlgaria, a bod ganddo anafiadau i’w wddw yn ogystal â briw 4cm ar ei law chwith wedi iddo geisio ei amddiffyn ei hun yn ystod y digwyddiad.

Mae Vincent Fuller, o Stanwell, wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 23) wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ac o fod â chyllell yn ei feddiant.

Mae’r achos yn cael ei drin fel un brawychol oherwydd fod pobol eraill wedi clywed Vincent Fuller yn gweiddi “White supremacy” ac “I’m going to kill Muslims” yn ystod yr oriau cyn y digwyddiad.