Mae mosg arall wedi cael ei fandaleiddio yn Birmingham, er bod yr heddlu’n dweud eu bod yn patrolio’r ddinas a’r ardal ehangach er mwyn gwarchod y gymuned Fwslimaidd.

Mae swyddogion Heddlu’r West Midlands yn dweud eu bod ar hyn o bryd yn mynd trwy luniau camerâu cylch-cyfyng er mwyn chwilio am gliwiau am yr ymosodiad yn Balsall Heath fore heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 23).

Ar hyn o bryd, mae ditectifs o’r farn nad oes cysylltiad rhwng yr achos diweddaraf hwn ac ymosodiadau ar bump mosg arall yn y ddinas ynghynt yn yr wythnos.

Fe gafodd swyddogion eu galw i’r mosg yn Cromer Road, Balsall Heath am 6.30yb heddiw, yn dilyn adroddiadau o ddifrod troseddol.