Mae dau o bobol ifanc wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i ddynes gael ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar yn Doncaster.

Mae Heddlu De Swydd Efrog yn cadarnhau i’r gwasanaethau brys gael eu galw i barc carafanau yn Dunscroft toc cyn 2yp ddydd Gwener (Mawrth 22) yn dilyn adroddiadau fod cerbyd wedi taro gwraig 52 oed.

“Mae’n achos tristwch cyhoeddi fod y wraig wedi marw yn y fan a’r lle, ac fe adawodd y cerbyd y safle wedi’r ddamwain,” meddai llefarydd ar dan yr heddlu.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r Citroen Berlingo coch yn fuan wedyn, Mae dau fachgen, 19 ac 17 oed, wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddio.