Mae bachgen yn ei arddegau wedi’i ganfod wedi’i drywanu i farwolaeth yng ngorllewin Llundain.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i floc o fflatiau yn Isleworth tua 10.30yh neithiwr (nos Wener, Mawrth 22) yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r bachgen, 17, gydag anafiadau difrifol y tu allan i fflatiau Union Lane.

Er i swyddogion Heddlu’r Met roi cymorth cyntaf, ac er i barafeddygon hefyd geisio achub ei fywyd, bu farw’r bachgen.

Mae Scotland Yard yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth.