Mae deiseb sydd yn galw ar y Lywodraeth Prydain i ddiddymu Erthygl 50 wedi cael ei llofnodi dair miliwn o weithiau.

Fe gyrhaeddodd dros filiwn o lofnodion brynhawn ddoe (dydd Iau, Mawrth 21) yn dilyn araith y Prif Weinidog, Theresa May, nos Fercher (Mawrth 20).

Yn yr araith, roedd hi’n beio Aelodau Seneddol am fethu â delifro canlyniad Refferendwm 2016, gan ddatgan i bleidleiswyr rhwystredig, ei bod “ar eu hochr nhw”.

Yn ôl Pwyllgor Deisebau swyddogol San Steffan  maen nhw wedi profi’r gyfradd uchaf erioed o lofnodion erioed ar eu gwefan.

Dywedodd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddoe y byddai modd dileu Erthygl 50 o Fawrth 29 i Fai 22, ar yr amod bod Aelodau Seneddol yn cefnogi cytundeb Theresa May wythnos nesaf.