Mae plant ysgol wedi talu teyrngedau i un o’r tri o blant fu farw tu allan i ddisgo mewn gwesty yng Ngogledd Iwerddon ar ddiwrnod San Padrig (dydd Sul, Mawrth 17).

Bu cannoedd o bobol yn Eglwys San Padrig yn Dungannon, Co Tyrone, i ffarwelio â’r bachgen 17 oed, Morgan Barnard.

Gwisgodd y gynulleidfa grysau Hawaii a thimau chwaraeon i’r gwasanaeth. Yn eu plith roedd disgyblion o ysgolion Dunghannon a Cookstown.

Roedd Morgan Barnard yn un o dri a gafodd eu lladd ar ôl cael ei wasgu tu allan i’r disgo yn Cookstown ddydd Sul.

Mae angladdau’r ddau arall – Lauren Bullock, 17, a Connor Currie, 16 – hefyd yn cael eu cynnal heddiw (dydd Gwener, Mawrth 22).

Mae’n debyg bod cannoedd wedi trio mynd mewn i’r gwesty ar ôl cael eu cludo yno mewn bysus, a bod rhai wedi cael eu gwasgu wrth ymyl mynediad yr adeilad.

Cafodd Michael McElhatton 52, sy’n berchen ar y Greenvale Hotel, ei arestio ddechrau’r wythnos o dan amheuaeth o ddynladdiad cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae dyn 40 oed hefyd yn cael ei gwestiynu o dan amheuaeth o ddynladdiad, ac yn parhau i gael ei holi gan yr heddlu fore heddiw (dydd Gwener, Mawrth 22).