Mae heddlu wedi arestio bachgen 17 oed heddiw (dydd Gwener, Mawrth 22) o dan amheuaeth o ladd Jodie Chesney.

Dyma’r pedwerydd person sydd wedi cael ei arestio yn gysylltiedig â llofruddiaeth y ferch 17 oed gafodd ei thrywanu ym mharc Hrold Hill yn Llundain ar Fawrth 1.

Mae dau ddyn a bachgen eisoes wedi cael eu cyhuddo o’i lladd – sef Manuel Petrovic, 20, Svenson Ong-a-kwie, 18, a bachgen 16 oed sydd ddim yn cael ei enwi.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron yr Old Bailey ym mis Medi.

Rhyddhawyd tri pherson arall, dyn 50 oed, dynes 38, a bachgen 17 o dan amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.