Mae Theresa May wedi diystyru atal Brexit er gwaetha’r ffaith bod mwy na dwy filiwn o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am atal y broses.

Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd hi’n meddwl y byddai’n syniad da i ddiddymu Erthygl 50 ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd gynnig gohirio Brexit.

Roedd bron i 2.3 miliwn o bobl wedi arwyddo’r ddeiseb erbyn iddi ateb cwestiynau gan ohebwyr ym Mrwsel ddydd Iau (Mawrth 21) yn dilyn cyfarfod rhwng arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd. Yn ystod y cyfarfod fe benderfynodd yr arweinwyr i ohirio Brexit tan Fai 22 – ar yr amod bod Aelodau Seneddol yn cefnogi cynllun ymadael Theresa May wythnos nesaf.

“Rwy’n credu ei fod yn ddyletswydd ar ein Llywodraeth a’n Senedd i weithredu canlyniad y bleidlais,” meddai’r Prif Weinidog.

Mae gwybodaeth ar y wefan sy’n cynnal y ddeiseb yn dangos bod y rhan fwyaf sy’n cefnogi’r ddeiseb yn byw yn Llundain ac etholaethau yng Nghaergrawnt, Brighton, Bryste, Rhydychen a Chaeredin. Yn y refferendwm yn 2016, dyma’r chwe dinas oedd hefyd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.