Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r fyfyrwraig Libby Squire ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod yn Afon Humber.

Roedd Heddlu Humberside wedi bod yn chwilio am y fyfyrwraig 21 oed ers iddi ddiflannu o’i chartref yn Hull saith wythnos yn ôl.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw bellach wedi adnabod ei chorff yn ffurfiol ar ôl ei ddarganfod pnawn dydd Mercher. Cafodd ei gweld y tro diwethaf am hanner nos ar 1 Chwefror yn y ddinas.

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd is-ganghellor Prifysgol Hull y byddan nhw’n parhau i roi cymorth i’w theulu a ffrindiau “yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma.”

Mae tua 50 o dditectifs wedi bod ynghlwm a’r achos ac mae dyn 24 oed, Pawel Relowicz, o Hull wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gipio a’i gadw yn y ddalfa.