Mae tri dyn yn wynebu carchar ar ôl saethu bachgen saith oed a’i fam ar stepen drws eu tŷ.

Fe gafodd Christian Hickey Jr, a’i fam, Jayne Hickey, eu saethu yn eu coesau gan ddryll Heckler & Koch P7 wrth iddyn nhw ateb drws eu eu cartref yn Winton, Salford, ger Manceinion ym mis Hydref 2015.

Fe aeth y fwled trwy goes y fam, cyn taro coes y mab cyn i’r ddau gael eu gadael mewn pwll o waed yng nghoridor y tŷ.

Mae Carne Thomasson, 28, Chrisopher Hall, 49, a Aldaire Warmington, 32 wedi eu canfod yn euog o gynllwyn i gyflawni niwed corfforol difrifol gyda bwriad a chynllwyn i wyrdroi cwrs cyfiawnder gan reithgor heddiw (dydd Iau, Mawrth 21).

Clywodd Llys y Goron Manceinion mai rhan o ymosodiad gan un o ganigau cyffuriau mwyaf Salford – o dan yr enw A-Team – oedd y digwyddiad, ac yn dial am lofruddiaeth “Mr Big”, Paul Massey, a gafodd hefyd ei saethu ar stepen ei ddrws dri mis ynghynt.