Mae gemydd o India sy’n werth ei biliynau ac sydd wedi bod ar herw tros achos o dwyll £1.5bn, wedi cael ei arestio yn Llundain.

Fe gafodd Nirav Deepak Modi, 48, ei ddal gan swyddogion Heddlu’r Met yn Holborn.

Mae disgwyl iddo ymddangos heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20) gerbrob Llys Ynadon Westminster, fel rhan o broses ei estraddodi gan awdurdodau India.

Mae’n cael ei gyhuddo o fod yn rhan o dwyll Banc Cenedlaethol Pwnjab, sy’n cael ei ystyried yn un o achosion mwyaf erioed o dwyll yn India.