Mae’r nifer o bobol sydd mewn gwaith ar ei uchaf ers 1971 wrth i gyfradd diweithdra syrthio o dan 4%.

Yn ôl Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae cyflogaeth wedi cynyddu 222,000 yn y flwyddyn hyd at fis Ionawr eleni i 32.7 miliwn yng ngwledydd Prydain.

Mae cyfartaledd cyflog wedi codi 3.4% yn y flwyddyn honno hefyd, sydd i lawr 0.1% o fis ynghynt, ond mae’n parhau i orbwyso chwyddiant.

Fe gwympodd diweithdra 35,000 i 1.34 miliwn hefyd, sydd 112,000 yn llai na blwyddyn yn ôl – sy’n golygu bod y gyfradd ddiweithdra bellach yn 3.9%.

Ar yr un pryd, mae’r nifer o bobol sydd yn economaidd anweithgar wedi disgyn 117,000 dros y tri mis diwethaf i 8.55 miliwn, sef gradd o ychydig o dan 21% – y lleiaf ar gofnod.

Mae nifer y swyddi gwag wedi codi 4,000 i 854,000 hefyd.