Mae’r grŵp ymgyrchu, Labour Leave, wedi gorfod talu gwerth £9,000 mewn dirwyon am fethu â chofnodi manylion ynglŷn â rhoddion ariannol a dderbyniwyd yn ystod y refferendwm Brexit yn 2016.

Roedd y grŵp rhestredig wedi derbyn 11 rhodd gwerth £420,000 yn ystod ymgyrch y refferendwm, meddai’r Comisiwn Etholiadau, ond fe wnaethon nhw fethu â’u cofnodi’n swyddogol.

Wrth gadarnhau bod y dirwyon wedi cael eu talu, dywed y Comisiwn fod gan Labour Leave gyfrifoldeb i gofnodi rhoddion “fel y gall y cyhoedd weld lle mae arian sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ymgyrchu yn deillio.”

Dirwyon eraill

Mae’r Comisiwn hefyd wedi datgelu eu bod nhw wedi derbyn £6,250 mewn dirwyon wrth y Blaid Geidwadol am fethu â chofnodi’n gywir roddion a dderbyniwyd yn ystod yr etholiad cyffredinol yn 2017.

Mae’r blaid hefyd wedi talu £5,050 pellach am fethu â chofnodi manylion ynghylch rhoddion mewn adroddiadau chwarterol.

Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol wedyn eu dirwyo £4,750 am yr un achos.