Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio, wedi i ddyn arall gael ei saethu’n farw mewn stryd yn Kent.

Fe ddaethpwyd o hyd i Andrew Jenkins, 54, o Rochester, gydag anaf bwled yn Maidstone toc cyn 11yb ddydd Sul (Mawrth 17). Fe gafodd yr heddlu a’r parafeddygon eu galw, ond doedd yna ddim achub ei fywyd.

Mae Jeffery Mills, 54, wedi’i arestio a’i gyhuddo o lofruddio, o fod ag arfau yn ei feddiant heb y drwydded angenrheidiol, ac mae hefyd wedi’i gyhuddo o ddau achos o fod â gwn wedi’i wahardd yn ei feddiant.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Medway heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19).