Mae mam wedi cael ei charcharu am oes ar ôl boddi ei merch tair oed mewn bath ar ôl i’w phriodas chwalu.

Cafodd y gyn-athrawes gwyddoniaeth Claire Colebourn, ei dedfrydu i isafswm o 18 mlynedd dan glo   yn Llys y Goron Winchester ar ôl iddi gyfaddef llofruddio ei merch, Bethan Colebourn.

Clywodd y llys bod Claire Colebourn wedi dioddef ar ôl i’w gŵr Michael Colebourn ddod a’u perthynas 16 mlynedd i ben.

Yn oriau man y bore ar Hydref 19, 2017, fe ddihunodd ei merch yn eu cartref yn Hampshire, ei harwain i’r bath a dal ei chorff o dan y dŵr cyn ceisio lladd ei hun sawl gwaith.

Cafodd hi ei darganfod yn anymwybodol gan ei mam tua 14 awr yn ddiweddarach.

Roedd Claire Colebourn wedi cyfaddef lladd ei merch, ond dywedodd mai er mwyn ei “hachub” a’i “diogelu” rhag ei thad oedd hyn.

Ar ôl iddi gael ei dedfrydu, dywedodd ei gŵr Michael Colebourn bod ei “ferch brydferth” wedi cael ei chymryd oddi arno mewn “dull oer a dideimlad”.