Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson wedi galw ar Theresa May i ohirio pleidlais arall ar ei chytundeb Brexit, gan rybuddio y byddai’n “hurt” i wneud hynny heb sicrhau newidiadau o Frwsel gyntaf.

Dywedodd y byddai’n amhosib cefnogi cytundeb y Prif Weinidog oni bai bod newidiadau ar gyfer y “backstop” yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu diwygio.

Ond mae Theresa May wedi cael hwb gan yr Arglwydd Lamont sydd wedi annog Brexitwyr i ganolbwyntio ar y nod o adael yr Undeb Ewropeaidd a chefnogi ei chynllun.

Mae Downing Street yn ceisio cael cefnogaeth i’r cytundeb – yn enwedig gan blaid y DUP – yn y gobaith o ddod a’r cynllun gerbron y Senedd unwaith eto cyn uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau.

Ond mae’n bosib y gallai Theresa May ohirio’r bleidlais allweddol am wythnos arall oni bai ei bod yn hyderus na fydd yn cael ei threchu am y trydydd tro yn Nhŷ’r Cyffredin. Fe gollodd y bleidlais o 230 o bleidleisiau ym mis Ionawr a 149 wythnos ddiwethaf.

Mae hi wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Gyfunol geisio cael estyniad hir i’r trafodaethau, gyda’r posibilrwydd o golli Brexit yn gyfan gwbl, os nad yw ei chytundeb yn cael ei gymeradwyo.