Mae ymdrech Theresa May i ennill cefnogaeth i’w chytundeb Brexit yn parhau heddiw (dydd Llun, Mawrth 18) wrth iddi gynnal trafodaethau gyda’r DUP.

Mae disgwyl i’r trafodaethau fynd yn eu blaen yn ystod y dydd, er bod Stryd Downing yn mynnu nad oes cyfarfod ffurfiol wedi ei drefnu.

Mae gweinidogion y Llywodraeth yn pwysleisio bod angen cymeradwyo’r cytundeb cyn i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod mewn cynhadledd ddydd Iau yr wythnos hon (Mawrth 21).

Bydd methiant i wneud hyn, medden nhw, yn gorfodi gwledydd Prydain i dderbyn gohiriad dros dro ar Brexit, a hynny ar adeg pan fo’r etholiadau Ewropeaidd ar y gorwel.

Mae Theresa May hefyd wedi rhybuddio y bydd y cam hwn, o bosib, yn golygu na fydd Brexit “byth yn digwydd”.