Mae tri pherson ifanc wedi marw yn dilyn digwyddiad mewn gwesty i ddathlu Dydd Gŵyl San Padrig yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd rhai pobol eraill hefyd eu hanafu yn y digwyddiad yng ngwesty’r Greenvale yn Cookstown yn Swydd Tyrone tua 9.30yh nos Sul (Mawrth 17).

Er nad yw’n glir ar hyn o bryd sut y bu farw’r tri mae ’na adroddiadau bod pobol wedi cael eu gwasgu gan y dorf wrth drio mynd i mewn i’r disgo, meddai’r heddlu.

Dywedodd Heddlu Gogledd Iwerddon bod merch 17 oed a bachgen 17 oed, a bachgen 16 oed wedi marw yn y digwyddiad.

Mae merch 16 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty tra bod dau berson ifanc arall yn cael triniaeth.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau ac mae teuluoedd y rhai fu farw wedi cael gwybod, meddai’r heddlu. Maen nhw’n apelio am wybodaeth ac yn galw ar bobol ifanc i roi fideos o’r digwyddiad iddyn nhw.