Mae un o gyn-weinidogion Llywodraeth Prydain yn galw am “ymadawiad urddasol” Theresa May er mwyn sicrhau bod y broses Brexit yn dod i ddiweddglo delfrydol.

Fe fu awgrym mai’r unig ffordd y gall prif weinidog Prydain sicrhau bod Brexit yn mynd rhagddo yw cytuno i gamu o’r neilltu pe bai’r senedd yn derbyn ei chynllun.

Mae Esther McVey, sy’n galw am ymddiswyddiad Theresa May, yn awgrymu y byddai hi’n barod i gamu i’w hesgidiau pe bai hi’n ennill digon o gefnogaeth.

Daw sylwadau’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn dilyn cyfweliad â rhaglen Pienaar’s Politcs ar Radio 5 Live.

“Dim ond hi sy’n gwybod beth sydd orau iddi, ond yr hyn rwy’n ei wybod yw ein bod ni oll fel plaid am fod yn gallu diolch iddi.

“Mae angen ymadawiad urddasol arni…”

Newid arweinydd

Un sy’n ategu sylwadau Esther McVey yw Charlie Elphicke, aelod seneddol Ceidwadol dros Dover, wrth iddo alw am “newid yr arweinydd”.

Dywed fod angen “wyneb newydd a thîm newydd i’n symud ymlaen at berthynas newydd yn y dyfodol”.

Mae cynllun Theresa May yn wynebu trydedd pleidlais yr wythnos hon, ac mae adroddiadau bod trafodaethau ar y gweill i geisio cefnogaeth y rhai oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun yn y ddwy bleidlais flaenorol.

Mae Downing Street, fodd bynnag, yn gwadu hynny.