Mae llywydd Sinn Fein yn cyhuddo llywodraeth Prydain o geisio “prynu amser” wrth geisio ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Mary Lou McDonald, “mae’r holl sefyllfa bellach yn boenus” wrth i Theresa May gynnal pleidlais ar ôl pleidlais yn San Steffan wrth geisio pasio ei chytundeb.

“Hyd yn oed rŵan, ar yr unfed awr ar ddeg, mae’r system Brydeinig yn dal i oedi. Mae’n sefyllfa beryglus iawn o ran ynys Iwerddon.

“Mae wedi fy nychryn i, yn arbennig. fod y DUP yn chwarae’r un gêm gydag economi Iwerddon, gyda swyddi a bywoliaeth pobol Iwerddon, i’r gogledd ac i’r de o’r ffin. Maen nhw hefyd yn chwarae â Chytundeb Gwener y Groglith.

“Mae’n rhaid i ni aros yn gadarn trwy hyn i gyd,” meddai wedyn, “tra bod y system Brydeinig yn gwneud ei meddwl i fyny. Beth bynnag fydd y sefyllfa, mae’n rhaid i unrhyw gynllun neu ddêl warchod buddiannau pobol Iwerddon.”