Mae disgwyl i gyn-filwr Prydeinig gael clywed heddiw a fyddan nhw’n cael eu herlyn am eu gweithredoedd yng Ngogledd Iwerddon ddechrau’r 1970au.

Mae’r 17 yn gyn-aelodau o Gatrawd Bataliwn y Parasiwt, ac yn wynebu achosion llys posib am yr hyn ddigwyddodd yn ninas Derry ar ‘Bloody Sunday’ 1972.

Cafodd milwyr eu hanfon i ardal weriniaethol Bogside yn Derry y diwrnod hwnnw gyda’r nod o ddelio â reiat. Ond fe gafodd 13 o bobol eu saethu’n farw, ac fe gafodd 15 yn rhagor eu saethu neu’u hanafu.

Heddiw (dydd Iau, Mawrth 14) mae disgwyl i’r cyn-filwyr glywed a fyddan nhw’n wynebu cyhuddiadau o lofruddio, o geisio llofruddio, neu o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.