Mae cyn-arweinydd y Rhyddfrydwyr, David Steel, yn gwadu “claddu ei ben yn y tywod” ynglŷn â honiadau o gam-drin plant yn erbyn cyn-Aelod Seneddol Rochdale, Cyril Smith.

Mae’n dweud iddo ofyn yn blwmp ac yn blaen i’r diweddar wleidydd yn 1979 ynglŷn â’r honiadau ei fod yn cam-drin bechgyn mewn hostel yn Rochdel, a gweld fod y sïon yn dyddio’n ôl i’r 1960au pan oedd Cyril Smith yn gynghorydd Llafur.

Ar ddiwedd y sgwrs honno, meddai David Steel, roedd yn “cymryd” fod Cyril Smith wedi cyflawni’r troseddau, gan na wnaeth unrhyw ymgais i’w gwadu nhw. Fe ddywedodd Cyril Smith ar y pryd hefyd fod yr heddlu wedi ymchwilio i’r honiadau, ac wedi penderfynu peidio â â gweithredu.

Mae David Steel wedi gwneud y datganiadau fel rhan o’i dystiolaeth i’r Ymchwiliad i Gam-drin Rhywiol yn erbyn Plant (IICSA).

“Doeddwn i ddim yn cuddio fy mhen yn y tywod,” meddai David Steel. “Roedd yr honiadau hyn i gyd yn deillio o gyfnod rai blynyddoedd cynt – cyn bod Cyril Smith yn Aelod Seneddol, nac yn aelod o blaid y Rhyddfrydwyr – felly do’n i ddim yn teimlo fod gen i le i drafod y mater o gwbwl.”

Mae Cyril Smith, a fu’n Aelod Seneddol dros Rochdale rhwng 1972 a1992, yn cael ei gyhuddo o gam-drin nifer o fechgyn yn rhywiol. Mae mwy o honiadau wedi’u gwneud ers ei farwolaeth yn 2010.