Fe fydd dau ddyn yn cael eu herlyn am fethiannau honedig yn y drefn iechyd a diogelwch, wedi i baffiwr ifanc gael eu lladd mewn gornest focsio yn Great Yarmouth.

Roedd Kuba Moczyk, 22, yn cystadlu yn ei ornest gyhoeddus gyntaf erioed, pan gafodd ei daro’n anymwybodol yn y drydedd rownd ar Dachwedd 21, 2016. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach, gyda’r cwest yn dyfarnu iddo farw trwy ddamwain.

Mae Cyngor Bwrdeistref Great Yarmouth yn erlyn dau ddyn mewn cysylltiad â methiannau honedig yn y digwyddiad yn yr Atlantis Arena Tower Complex. Y cyntaf yw hyrwyddwr y digwyddiad, Aurelijus Kerpe, 34, a’r ail yw’r dyn oedd yn gyfrifol am y gofal meddygol ar y noson, Andrew Cowlard, 54.

Mae disgwyl i’r ddau ymddangos gerbron Llys Ynadon Norwich ddydd Gwener yr wythnos hon (Mawrth 15).