Fe fydd gweithwyr maes awyr Glasgow yn cael pleidleisio ar p’un ai ydyn nhw am gynnal streic ar fater cyflogau a phensiynau.

Mae’r undeb Unsain, sy’n cynrychioli tua 500 o’r gweithwyr ar y safle – wedi rhoi gwybod i’r rheolwyr y bydd y balot yn digwydd.

Maen nhw’n awyddus i sicrhau cynllun pensiwn y gweithwyr, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael “codiad cyflog teg”.

Mae Unsain yn dweud fod cynnig y maes awyr o godiad o 1.5% wedi cael ei wrthod gant y cant mewn pleidlais lle’r oedd 97% o’r gweithlu wedi troi allan i fwrw croes.

Mae codiad uwch o 1.8% hefyd wedi’i wrthod gan bwyllgor undeb yn ddiweddar.