Mae dyn a ffilmiodd ei hun ar wefan Snapchat yn treisio dynes, cyn anfon y fideo at ei ffrindiau, wedi cael ei anfon i’r carchar.

Roedd Aziz Khan, o Stoke-on-Trent, wedi cyfaddef treisio, ac mae wedi’i anfon i garchar am 11 mlynedd a dau fis.

Roedd y dyn 22 oed hefyd wedi pledio’n euog i ddatgelu lluniau a ffilmiau rhywiol preifat, gyda’r bwriad o beri gofid.

Fe ddigwyddodd y treisio yn Stoke ym mis Ebrill 2017, cyn i ffilm 10 eiliad o’r ymosodiad gael ei rhannu.

Yn ogystal â chael ei garcharu, mae Aziz Khan wedi cael ei roi ar y gofrestr ryw am oes.