Fe allai bachgen yn ei arddegau sydd wedi’i gael yn euog o dynnu lluniau i fyny sgertiau dwy athrawes. orfod dod wyneb yn wyneb â’r merched unwaith eto, er mwyn clywed am yr effaith y mae ei weithredoedd wedi ei gael arnyn nhw.

Mae Timothy Boomer, 18, yn euog o bump achos o fynd yn groes i ymddygiad gweddus, trwy gymryd lluniau fideo tra oedd yn ddisgybl 14-16 oed yn Enniskillen Royal Grammar School.

Fe’i cafwyd yn euog y mis diwetha’ “o weithredoedd o natur anweddus, gwarthus a ffiaidd”.

Mae Timothy Boomer bellach yn byw yng Nghymru, ac wedi cytuno i gyfarfod â’r rhai y troseddodd yn eu herbyn.

Roedd y ddwy athrawes yn y llys heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 12) i glywed yr ynadon yn dweud y bydd y panel dedfrydu yn aros i glywed canlyniad y cyfarfod â’r dioddefwyr, cyn penderfynu ar ddedfryd.