Mae llanc 15 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Jodie Chesney yn nwyrain Llundain.

Fe fydd yn mynd gerbron ynadon Barkingside heddiw (dydd Llun, Mawrth 11).

Mae dyn 18 oed o Romford hefyd yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio’r ferch 17 oed, a gafodd ei thrywanu ar Fawrth 1. Roedd hi’n chwarae gyda’i ffrindiau mewn parc ar y pryd.

Fe fu dyn 50 oed, dynes 38 oed a llanc 17 oed i gyd yn y ddalfa ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae dyn 20 oed, Manuel Petrovic, wedi’i gyhuddo o lofruddio, ac fe fydd yn mynd gerbron llys yr Old Bailey heddiw.

Mae’r achos wedi arwain at gwestiynau difrifol am droseddau â chyllyll.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.