Mae traean o bobol sydd mewn perthynas yn dweud bod eu partner yn eu hanwybyddu wrth droi at eu ffonau symudol.

Dywed 36% o’r 2,000 o bobol a gafodd eu holi gan YouGov eu bod nhw wedi cael eu hanwybyddu gan bartner oedd yn defnyddio ffôn symudol.

57% oedd y ffigwr ar gyfer pobol rhwng 25 a 34 oed.

Ac mae cyfreithwyr yn rhybuddio bod y sefyllfa’n arwain at gynnydd mewn achosion o ysgaru a thor-perthynas.

Dywed 11% o bobol a gafodd eu geni ers y mileniwm eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon drwy dwyllo ar bartner drwy gyfrwng ffôn symudol.

“Mae rhai cyplau’n treulio mwy o amser yn y gwely gyda’u ffonau symudol na bod yn serchus gyda’i gilydd,” meddai Amanda Rimmer, cyfreithwraig gyda chwmni Stephenson’s, comisiynwyr yr arolwg.

“Mae pobol yn cysgu gyda’u ffôn, yn bwyta gyda’u ffôn, yn chwarae gyda’u ffôn ac yn siarad gyda’u ffôn – mae bron â bod yn berthynas ynddi’i hun.

“Gall ffonau symudol achosi diffyg ymddiriedaeth ac amheuaeth, dadleuon a bod yn anffyddlon.”