Mae dyn wedi marw ar ôl cael anafiadau i’w ben yn ystod ffrwgwd yng ngorsaf danddaearol Queensbury yng ngogledd-orllewin Llundain.

Fe ddigwyddodd am oddeutu 12.30 fore heddiw.

Bu farw’r dyn yn yr ysbyty yn ddiweddarach, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.