Mae llanc 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dyn 19 oed ar ôl ei drywanu ar fws yng ngogledd Llundain.

Mae’r dioddefwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, lle mae ei fywyd mewn perygl ar ôl cael ei drywanu yn ei frest.

Roedd y ddau yn teithio ar fws yn ardal Muswell Hill am oddeutu 4.40 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 9).

Cafodd ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.