Ian Huntley
Mae disgwyl i garcharor fynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio carcharor arall a cheisio lladd y llofrudd Ian Huntley.

Mae Damien Fowkes, 35, o Northumberland wedi ei gyhuddo o dorri gwddf Huntley yng ngharachar Frankland, Durham ym mis Mawrth y llynedd. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tra roedd y ddau yn gweithio yng ngheginau’r carchar.

Mae Fowkes wedi ei gyhuddo o dorri gwddf Huntley gan ddefnyddio cyllell wedi ei wneud o frws dannedd a llafn rasel.

Cafodd Huntley ei garcharu am oes yn 2002 am lofruddio’r ddwy ferch ysgol Holly Wells a Jessica Chapman yn Soham, Swydd Gaergrawnt.

Honir bod Fowkes hefyd wedi tagu carcharor arall i farwolaeth – Colin Hatch – yng ngharchar Full Sutton ger Efrog ym mis Chwefror.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Hull heddiw.