Mae Llywodraeth gwledydd Prydain wedi cynyddu ei hymdrechion i ryddhau Nazanin Zaghari-Ratcliffe, y fam sydd wedi’i charcharu yn Iran ar gyhuddiad o ysbio.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt wedi cytuno i roi ‘amddiffyniad diplomyddol’ iddi yn sgil methiant Iran i gwrdd â’i hoblygiadau o dan gyfraith ryngwladol yn ei thriniaeth o Nazanin Zaghari-Ratcliffe, 41 oed, sy’n ddinesydd o’r ddwy wlad.

Prin iawn yw’r achosion lle mae amddiffyniad diplomyddol wedi cael ei ddefnyddio.

Er bod Jeremy Hunt wedi cydnabod na fydd yn debygol o sicrhau ei bod yn cael ei rhyddhau yn syth, dywedodd y bydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar Iran i roi sylw i’r achos.

“Mae fy mhenderfyniad yn gam diplomyddol bwysig sy’n rhoi neges glir i Tehran bod ei hymddygiad yn hollol anghywir.”

Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan Richard Ratcliffe, gwr Nazanin Zaghari-Ratcliffe sydd wedi bod yn lobio gweinidogion i gynyddu’r ymdrechion i ryddhau ei wraig.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei chadw yn y ddalfa yn 2016.

Mae hi’n gwadu cyhuddiadau o ysbio.