Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar ôl i wyau gael eu taflu at arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yn ystod ymweliad a mosg yng ngogledd Llundain.

Dywedodd Scotland Yard bod John Murphy, 31, o Barnet, wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn ystod oriau man fore dydd Llun. Mae disgwyl iddo fynd gerbron llys ynadon Highbury Corner ddydd Mawrth, Mawrth 19.

Ni chafodd Jeremy Corbyn ei anafu yn ystod y digwyddiad ac roedd wedi parhau gyda’i ymweliad a Mosg Finsbury Park yn ei etholaeth.