Mae dyn 38 oed wedi marw ar ôl cwympo o ail lawr atriwm Amgueddfa Lerpwl.

Cafodd yr heddlu eu galw toc ar ôl 11 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 3).

Cafodd y dyn driniaeth CPR ond fe fu farw yn y fan a’r lle.

Does dim eglurhad ar hyn o bryd, ond does dim amgylchiadau amheus, meddai’r heddlu.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.

Mae’r amgueddfa ynghau am weddill y dydd.