Clywodd cwest i farwolaeth glöwr ei fod wedi marw ar ôl iddo gael ei fygu wedi i do pwll ddymchwel am ei ben.

Cafodd Gerry Gibson, 49 ei ladd ar ôl i’r to ddymchwel ym mhwll glo Kellingley, yng Ngogledd Swydd Efrog ar 27 Medi.  Cafodd glöwr arall ei anafu yn y ddamwain.

Wrth roi tystiolaeth yn y cwest, fe ddywedodd John Whyatt, arolygwr pyllau glo,  y byddai’n cymryd tua chwe mis i ymchwiliadau gael eu cwblhau.

Dywedodd ei fod yn glir o’i ganfyddiadau cychwynnol bod na fethiant yn y system oedd yn cynnal y to.

Mae wedi cadarnhau fod offer o’r pwll glo wedi’i anfon  i gael ei asesu ac y bydd rhaid aros tua chwe mis  nes bod arolygwyr yn gallu adrodd  ar y mater.

Dywedodd mai’r hyn oedd yn bwysig oedd canfod beth sydd wedi digwydd a sicrhau bod mesurau’n cael eu gweithredu i wneud yn siŵr nad yw’n digwydd eto.

Roedd gwraig  Gerry Gibson, Brenda, ynghyd a’i fab  Sean ac aelodau eraill o’i deulu yn y cwest.

‘Medrus’

Dywedodd perchnogion y pwll UK Coal bod Mr Gibson yn “weithiwr medrus ac yn uchel ei barch.”

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 4.35pm ddydd Mawrth diwethaf. Roedd y gwasanaethau brys a thimau achub wedi dod â’r ddau löwr o’r pwll am 7.30pm. Cafodd un glöwr yn ei 40au ei gludo i ysbyty Pinderfields gyda mân anafiadau, ond roedd Gerry Gibson eisoes wedi marw.

Dyma’r ail drasiedi yn y diwydiant glo o fewn pythefnos yn dilyn marwolaeth pedwar glöwr ym mhwll Gleision yng Nghilybebyll, ger Pontardawe ar 15 Medi. Bu farw’r pedwar ar ôl i ddŵr lifo i’r pwll.