Mae gŵr Shamima Begum, y ferch 19 oed a adawodd ei chartref yn Lloegr i fynd i Syria, yn awyddus i’r teulu ddychwelyd i’r Iseldiroedd, lle cafodd ei eni.
Mae Yago Riedijk, 27, yn y ddalfa mewn canolfan gadw Gwrdaidd yng ngogledd Syria.
Mae Shamima Begum, sydd wedi geni babi yn ddiweddar, yn byw mewn gwersyll i ffoaduriaid ger y ffin ag Irac, yn ôl adroddiadau.
Mae hi wedi colli’r hawl i ddychwelyd i wledydd Prydain ar ôl teithio i Syria yn 15 oed yn 2015.
Fe briododd y ddau pan oedd hi’n 16 oed, ac yntau’n 23 oed ac mae lle i gredu iddyn nhw ffoi o Baghouz, ardal olaf Daesh yn nwyrain Syria.
Mae lle i gredu bellach fod Yago Riedijk wedi troi ei gefn ar Daesh.
Priodi
Mae Yago Riedijk yn dweud bod Shamima Begum yn ifanc pan briododd y cwpl, ond mae’n cyfaddef nad oedd ganddo fe fawr o ddiddordeb ynddi ar y dechrau.
“Ond fe wnes i dderbyn y cynnig beth bynnag,” meddai.
“Fe wnaethon ni eistedd ac roedd hi’n ymddangos ei bod hi mewn cyflwr meddyliol da.
“Ei dewis hi oedd [teithio i Syria a phriodi]. Hi oedd yr un oedd wedi gofyn am gael chwilio am bartner iddi.
Mae Shamima Begum bellach wedi colli ei dinasyddiaeth Brydeinig.