Dydy Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o glymbleidio â Llafur yn San Steffan pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw yn sgil Brexit.

Dywed ei bod yn “barod i gydweithio â phleidiau eraill” er mwyn gwrthwynebu cynlluniau Brexit y llywodraeth Geidwadol.

Ac mae hi’n galw ar Theresa May i wrthod gadael i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac i gefnogi’r alwad am ail refferendwm.

Mae’n dweud y bydd hi’n rhoi datganiad am ymgyrch annibyniaeth arall i’r Alban “o fewn wythnosau”.

‘Cynigion Brexit yn hynod niweidiol’

“Byddwn ni’n barod ar gyfer etholiad cyffredinol pe bai’n cael ei alw, a byddem hefyd yn barod i gydweithio â phleidiau eraill i wrthwynebu cynlluniau Brexit hynod niweidiol y Ceidwadwyr,” meddai wrth bapur newydd Ta Nea yng Ngroeg.

Dywed fod cyhoeddiad Theresa May am bleidlais i ymestyn dyddiad Brexit y tu hwnt i Fawrth 29, pe bai’n cael ei dderbyn, yn agor y drws i ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.

“Dw i’n credu y byddai’r fath bleidlais yn gyfiawn oherwydd fe ddaeth yn gynyddol amlwg nad oedd gan bobol ddigon o wybodaeth wrth iddyn nhw bleidleisio yn 2016 – ac oherwydd fod Llywodraeth y DU a’r Senedd wedi methu â throi’r bleidlais dros adael yn gytundeb cyraeddadwy a llwyddiannus,” meddai.

“Ymhlith anhrefn a dryswch Brexit, dw i’n credu ei bod yn gliriach nag erioed nad yw anghenion yr Alban yn cael eu diwallu gan drefn San Steffan sy’n rhy aml yn trin yr Alban fel ôl-ystyriaeth yn hytrach na phartner hafal yn yr undeb.

“Fel prif weinidog, byddaf yn amlinellu fy meddyliau ar fater annibyniaeth a refferendwm dros yr wythnosau i ddod, unwaith y daw’n glir pa drywydd y bydd y Deyrnas Unedig yn ei ddilyn.”