Gerry Adams
Fe fydd  brawd Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, i gael ei estraddodi  i Ogledd Iwerddon er mwyn wynebu cyhuddiadau ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar ei ferch.

Mae Heddlu Gogledd Iwerddon yn awyddus i holi Liam Dominic Adams mewn cysylltiad â 18 trosedd honedig yn erbyn ei ferch Aine Tyrell, sydd wedi ymwrthod â’r hawl i aros yn anhysbys.

Mae Liam Adams,  56 oed,  wedi gwadu’r cyhuddiadau. Fe gollodd ei ymgais yn erbyn cael ei estraddodi o Weriniaeth Iwerddon yn yr Uchel Lys yn Nulyn.

Achos teg

Mae ganddo 15 niwrnod i wneud apêl yn erbyn penderfyniad y llys cyn  iddo gael ei estraddodi i Ogledd Iwerddon. Mae Liam Adams yn honni na fydd yn cael achos teg ar ôl i’w frawd Gerry Adams gefnogi ei nith, Aine Tyrrell.

Daeth yr achos yn hysbys i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2009, pan ymddangosodd Aine Tyrell mewn rhaglen ddogfen ar y teledu.

Mae Liam Adams wedi ei gyhuddo o dreisio, ymosod yn rhywiol ac o ymddwyn yn anweddus mewn sawl lleoliad  ym Melffast rhwng Mawrth 1977 a Mawrth 1983, pan oedd Aine Tyrell rhwng pedwar a 10 oed.

Cafodd Liam Adams gefnogaeth ei ferch arall, Claire Smith, wrth i’r penderfyniad gael ei gyhoeddi yn y llys gan y barnwr.

Gwrthododd y barnwr honiadau na fyddai’r diffynydd yn cael achos teg oherwydd yr holl sylw i’r achos yng Ngogledd Iwerddon, ac yn sgil sylwadau gan ei frawd, yn ogystal â’r oedi wrth wneud cyhuddiadau yn ei erbyn.