Mae Chris Grayling, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, dan bwysau i ymddiswyddo ar ôl i’w benderfyniad i dalu £33m i Eurotunnel “am ddim byd” gael ei gwestiynu.

Fe ddaeth i’r amlwg ddoe (dydd Gwener, Mawrth 1) fod gweinidogion wedi cytuno i dalu’r swm er mwyn osgoi mynd i’r Uchel Lys.

Fe fu Eurotunnel yn bygwth llys tros roi cytundebau gwerth £108m i dri chwmni fferi, gan gynnwys cwmni Seaborne Freight oedd heb yr un llong, am wasanaethau pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Mae disgwyl i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus graffu ar y penderfyniad yr wythnos nesaf, wrth i Eurotunnel alw’r broses yn un “cyfrinachol a llawn methiannau”.

‘Angen eglurhad’

Yn ôl Huw Merriman, aelod o’r Pwyllgor Dethol Trafnidiaeth, fe fydd angen i Chris Grayling allu egluro “yn union beth sydd wedi digwydd, beth mae e’n mynd i’w wneud i’w ddatrys, a beth mae e’n credu yw ei sefyllfa yn sgil hynny”.

Mae nifer o aelodau seneddol Llafur eisoes yn galw ar Chris Grayling i ymddiswyddo.

“Yr un ry’n ni’n cyffwrdd arno fan hyn yw rhywbeth sy’n ymddangos fel pe bai e wedi digwydd o dan ei swydd weithredol fel ysgrifennydd gwladol, a dyna pam y bydd rhaid iddo egluro’n union pam fod y penderfyniad wedi cael ei wneud i dalu swm mor uchel,” meddai Huw Merriman.

Mae Huw Merriman hefyd yn beirniadu Eurotunnel am fygwth llys, ac am wneud elw o 33% “drwy wneud dim byd”.

Ysgrifennydd Cyfiawnder

Daw’r helynt diweddaraf wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi am y newidiadau wnaeth Chris Grayling i’r gwasanaeth prawf pan oedd e’n Ysgrifennydd Cyfiawnder yn San Steffan.

Mae disgwyl i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder orfod talu bron i £500m yn fwy nag y byddai angen ei dalu yn ôl cytundeb gwreiddiol, wrth iddyn nhw ddod i ben 14 mis yn gynnar.

Mae’r Swyddfa Ystadegau’n dweud bod nifer yr ail-droseddwyr wedi codi’n sylweddol ers i’r gwasanaeth prawf gael ei breifateiddio’n rhannol.

Cefnogaeth

Er gwaetha’r helynt, mae’n ymddangos bod gan Chris Grayling gefnogaeth Theresa May, prif weinidog Prydain.

Mae Downing Street yn mynnu ei bod hi’n ymddiried ynddo.