Mae un o undebau’r ffermwyr yng Nghymru yn dweud bod ymddiswyddiad y Gweinidog Amaeth, George Eustice, yn “golled difrifol” i’r sector amaeth.

Fe gyhoeddodd y gweinidog, sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, ei fod am ddychwelyd i’r meinciau cefn er mwyn “bod yn rhydd i gymryd rhan yn y ddadl dyngedfennol a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf”.

Mae hefyd wedi mynegi ei wrthwynebiad i ymestyn Erthygl 50, gan ddweud y byddai hynny’n “creu embaras llwyr” i wledydd Prydain.

“Gallwn ni ddim cynnal trafodaethau Brexit llwyddiannus os nad ydyn ni’n barod i gerdded allan trwy’r drws,” meddai’r Aelod Seneddol tros Camborne a Redruth yn ei lythyr ymddiswyddo.

“Siom”

Er bod Undeb Amaethwyr Cymru o blaid gohirio Erthygl 50 er mwyn atal sefyllfa ‘dim cytundeb’, maen nhw wedi mynegi eu siom ynghylch ymadawiad George Eustice o Lywodraeth Prydain.

“Dyma weinidog a oedd yn deall ffermio – nid yn unig ar bapur, ond ffermio go iawn,” meddai llywydd yr undeb, Glyn Roberts.

“Mae ei ymddiswyddiad yn golled difrifol i bawb sy’n gysylltiedig ag amaeth yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.”