Mae cynllun iaith Wyddeleg wedi cael ei lansio yn Sir Kildare – y cynllun sirol cyntaf o’i fath yn Iwerddon.

Bydd y cynllun pum mlynedd yn cael ei lansio gan lywodraeth Iwerddon a’r cyngor sir mewn digwyddiad yn Naas nos fory (nos Iau, Chwefror 28).

Ffrwyth gwaith ymchwil sydd wedi para dwy flynedd yw’r cynllun, sydd wedi cael ei lunio gyda chymorth y gymuned Wyddelig, sefydliadau’r wladwriaeth a sefydliadau gwirfoddol.

Dyma’r cynllun iaith Wyddeleg sirol cyntaf i gyhoeddi gweledigaeth, amcanion penodol, strwythur a rhestr o gamau i ddatblygu’r iaith dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd y cynllun yn weithredol rhwng Ionawr 2019 a Rhagfyr 2023.

‘Ysbrydoli’

“Gobeithio y bydd y cynllun hwn yn ysbrydoli pobol sy’n ymddiddori yn yr iaith Wyddeleg i ddod o hyd i’w rôl wrth barhau i normaleiddio’r iaith,” meddai Siobhain Grogan, cadeirydd y pwyllgor gwirfoddol oedd wedi llunio’r cynllun.

“Mae’r cynllun iaith hwn yn amlinellu’r fframwaith ar gyfer datblygiad yr iaith Wyddeleg yn sir Kildare.

“Nod y cynllun yw helpu’r sawl sy’n gysylltiedig â’r iaith yn y sir i gyfuno’u hymdrechion i dargedu anghenion siaradwyr yr iaith Wyddeleg, y sawl sy’n dymuno ei dysgu a phawb sy’n ei chefnogi.”

‘Y galw’n cynyddu’

“Mae’r galw am wasanaethau iaith Wyddeleg gan Gyngor Sir Kildare yn parhau i dyfu, ac rydym yn ymroi’n llwyr i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw hyd eithaf ein gallu,” meddai Donnacha MacDiarmada, Swyddog Iaith Wyddeleg Cyngor Sir Kildare.

“Roedden ni wrth ein boddau i gefnogi gwaith Sult na Sollán ar y cynllun iaith Wyddeleg ac rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan yn ei lwyddiant.”

Cyfleoedd

Un o’r rhai sy’n gobeithio manteisio ar y cynllun yw’r cerddor Paddy Casey, un o drigolion y sir.

“Dw i’n defnyddio fy Ngwyddeleg lle bynnag y galla i, a dylai’r cynllun pum mlynedd hwn arwain at fwy o ymgysylltu gyda’r iaith, ac felly ragor o gyfleoedd i fi ei defnyddio hi,” meddai.

Mae Sult na Sollán, y mudiad a luniodd y cynllun, yn gobeithio gweld cydnabod ardal Sallins / Naas yn ardal líonra (rhan o rwydwaith yr iaith Wyddeleg) gan Adran Diwylliant, Treftadaeth a’r Gaeltacht Llywodraeth Iwerddon yn ystod y flwyddyn.