Mae tri dyn wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio tri o bobol oedd yn ceisio diogelu eu siopau a’u cartrefi rhag ysbeilwyr yn ystod y terfysgoedd ym mis Awst.
Cafodd Haroon Jahan, 21, a’i frodyr Shazad Ali, 30, a Abdul Musavir, 31, eu taro gan gar yn oriau mân 10 Awst yn ystod y terfysgoedd yn ardal Winson Green yn Birmingham.
Mae Ryan Goodwin, 21, Shaun Flynn, 25, a Juan Pablo Ruiz-Gaviria, 30, wedi ymddangos gerbron llys ynadon Birmingham ar gyhuddiad o lofruddio’r tri dyn.
Cafodd Goodwin, o Cranford Street, Smethwick, Ruiz-Gaviria, o Coplow Street, Ladywood, a Flynn, eu cadw yn y ddalfa a byddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Birmingham ddydd Mercher.
Mae chwech o bobl eisoes wedi bod gerbron llys mewn cysylltiad â marwolaeth y tri.
Mae Ian Beckford, 30, Everton Graham, 29, Joshua Donald, 26, Adam King, 23, a llanc 17 oed na ellir cyhoeddi ei enw, i gyd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Mae Liam Young, 28, o Winson Green, wedi ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd pump o ddynion eraill eu harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ac mae nhw wedi eu rhyddhau ar fechniaeth.