Hinkley Point Llun: Wikipedia
Mae mwy na 200 o bobol yn protestio tu allan i fynedfa gorsaf ynni niwclear Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.

Mae aelodau sawl grŵp gwrth-niwclear wedi ffurfio gwarchae tu allan i Hinkley Point am eu bod yn gwrthwynebu cynlluniau cwmni EDF Energy  i adeiladu dau adweithydd newydd ar y safle.

Fe fydd y ddau adweithydd yn Hinkley yn rhan o gynllun i adeiladu wyth orsaf ynni niwclear yn y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Stop New Nuclear Andreas Speck y Llywodraeth wedi “twyllo’r cyhoedd” i wneud i bobol gredu bod yn rhaid cael ynni niwclear, ond bod hynny’n “hollol anghywir”.

Dywedodd cyfarwyddwr gorsaf Hinkley Point B, Mike Harrison bod y cwmni yn parchu hawl pobl i gynnal protest heddychlon ond dywedodd bod ynni niwclear yn rhan hanfodol o gynhyrchiad ynni yn y DU yn y dyfodol.