Fe fydd Theresa May yn cynnal cyfarfodydd pellach gydag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Llun, Chwefror 25) yn ystod uwch-gynhadledd yn yr Aifft.

Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi cyfaddef na fydd yn gallu sicrhau cytundeb Brexit mewn pryd er mwyn i Aelodau Seneddol allu pleidleisio ar ei chynlluniau’r wythnos hon.

Mae Theresa May wedi dweud y bydd yn cyflwyno ei chynllun diwygiedig i’r Senedd cyn Mawrth 12 – 17 diwrnod yn unig cyn y mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r penderfyniad i ohirio’r bleidlais wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau sy’n ei chyhuddo o geisio gorfodi ASau i gefnogi ei chytundeb drwy gynnal pleidlais mor agos at Mawrth 29.

Ac mae yna siom ymhlith busnesau oherwydd yr ansicrwydd parhaol ynglŷn â beth fydd yn digwydd ar ôl Mawrth 29.

Mae’r Prif Weinidog yn wynebu gwrthryfel arall yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher pan mae disgwyl i Aelodau Seneddol wneud ymdrech arall er mwyn ceisio atal Brexit heb gytundeb.

Y “backstop” yng Ngogledd Iwerddon yw’r maen tramgwydd ac mae disgwyl i Theresa May gwrdd â Changhellor yr Almaen Angela Merkel a Phrif Weinidog yr Iseldiroedd Mark Rutte heddiw er mwyn trafod y materion hyn.