Daeth cannoedd o bobol o bob rhan o’r Alban i brotest yn Glasgow yn hawlio diwedd i’r anghyfartaledd ym mhensiwn y wladwriaeth.

Fe ymunodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon a’r gorymdeithwyr gan eu hannerch yn Govan Cross.

Dywedodd Ms Sturgeon wrthyn nhw i beidio rhoi gorau i’w brwydr am gyfiawnder.

Fe ddisgrifiodd y modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn gweithredu fel “lladrad.”

Meddai: “Gallwch ddisgrifio be sy’ wedi digwydd i ferched dr0s eu pensiynau ac sy yn parhau i ddigwydd mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

“Gallwch ei alw yn anghyfiawnder, gallwch ei alw’n bolisi gwael – ac os oeddech chi yn Dori neu yn Lib Dem fe fydde chi yn ei alw’n ‘ganlyniadau anfwriadol’.

“Ond dwi am ei alw yn union be mae o – sef lladrad plaen. Dyma ladrad arian sy’n eiddo i chi.

“Mae degau o filoedd o ferched ar draws yr Alban, cannoedd o filoedd o ferched ar draws y DG, yn colli degau o filoedd o bunnau.

“Os nad yw hynny yn anghyfiawnder, os nad yw hynny yn ddwyn, os nad yw hynny yn lladrad, yna ’dwi ddim yn gwybod beth sydd.”

Mae’r mudiad Women Against State Pension Inequality wedi ymgyrchu yn erbyn newidiadau a gododd yr oedran pan all ferched hawlio pensiwn gwladol.

Ers 1948 am dros 60 o flynyddoedd roedd dynion yn derbyn eu pensiwn gwladol yn 65 oed a merched yn 60.

Ond roedd rhai yn dadlau fod y gwahaniaeth yn annheg gan fod merched yn byw’n hirach na dynion ar gyfartaledd.

Y bwriad oedd codi’r oed i ferched i 65 ac i weithredu’r newid o 2020 yn hytrach na 2010.

Ond penderfynodd y llywodraeth clymbleidiol 2010 i gyflwyno’r newid yn gyflymach gan ddadlau fod y pensiwn gwladol bron yn anfforddiadwy.

Dywedodd Ms Sturgeon mai ei bwriad oedd datganoli pensiynau i Senedd yr Alban.

Ychwanegodd: “Os fydde hyn yn digwydd i ddynion, fe fydde yn sgandal cenedlaethol ar flaen tudalen pob papur newydd.”