Mae dyn 48 oed wedi ei garcharu am ddeng mlynedd wedi iddo dorri gwddf pedoffeil gyda chyllell.

Fe gafodd David Potter ei drywanu droeon gyda chyllell gan Christopher McMahon, wedi iddo gyfaddef iddo gam-drin bachgen chwech oed.

Roedd y ddau wedi bod yn yfed mewn fflat yn Tooting, de Llundain, pan ddigwyddodd yr ymosodiad yn oriau mân Awst 21 y llynedd.

Wedi’r ymosodiad, aeth Christopher McMahon i dŷ ei gariad achlysurol yn diferu o waed, a chyfaddef i’r llofruddio.

Clywodd Llys yr Old Bailey fod David Potter wedi pledio’n euog i ymddwyn yn ffiaidd o anweddus gyda phlentyn yn Llys y Goron Caer yn 2000.

Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud â cham-drin geneth yn y 1990au.

Yn ôl Christopher McMahon, roedd cyffes feddw David Potter wedi ei atgoffa o’r cam-drin yr oedd ef ei hun wedi ei ddioddef 30 mlynedd ynghynt pan oedd yn aelod o gôr eglwys yn y 1980au.

Troseddwr treisgar toreithiog

Cafwyd Christopher McMahon yn ddieuog o lofruddio  David Potts – ond yn euog o ddynladdiad.

Ers ei ddedfrydu i ddeng mlynedd dan glo, mae wedi dod i’r fei bod Christopher McMahon wedi ei ddedfrydu 46 o weithiau am 95 o wahanol droseddau tros gyfnod o 30 mlynedd.

Yn 2008 fe’i cafwyd yn ddieuog o ladd Jill Grinstead, 63, a gafodd ei dyrnu yn farw yn ei chartref yn Wimbledon.

Yn 2011 fe gafwyd Christopher McMahon yn euog o anafu dyn mewn tafarn, wedi iddo ddefnyddio gwydr i dorri pen y dioddefwr.

Wrth ddedfrydu’r drwgweithredwr, dywedodd y Barnwr Paul Dodgson ei fod yn derbyn bod Christopher McMahon wedi’i gam-drin yn ei ieuenctid a bod posibilrwydd cryf bod y “trawma” hwnnw wedi aros.

Ond ychwanegodd y Barnwr bod David Potts “wedi derbyn cosb am ei droseddau ac nad oedd gan unrhyw un yr hawl yn gyfreithiol nac yn foesol i’w gosbi eto”.