Mae bachgen yn ei arddegau mewn cyflwr difrifol ar ôl iddo gael ei saethu yn un o orsafoedd trên tanddaearol Llundain.

Mae’r heddlu trafnidiaeth, y BTP, wedi cadarnhau fod yna ffrwgwd wedi bod rhwng y bachgen a dau ddyn arall ar un o drenau lein yr Hammersmith and City allan o Lundain neithiwr (nos Fercher, Chwefror 20).

Pan ddaeth y trên i stop yng ngorsaf Barking, fe gafodd y bachgen ei saethu, cyn i’r dynion ffoi.

Mae’r bachgen wedi’i gludo i’r ysbyty i gael triniaeth. Yn ôl yr heddlu, fe gafodd ei saethu yn ei abdomen.