Mae swyddogion carchar yn Lerpwl yn gwrthod gweithio mewn protest yn erbyn diswyddiad “annheg” un o’u cydweithwyr.

Mae Cymdeithas y Swyddogion Carchar (POA) wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod y dyn, sydd â 16 mlynedd o brofiad, wedi’i glirio o unrhyw ddrwgweithredu gan ymchwiliad yr heddlu, wedi i garcharor wneud cwyn yn ei erbyn.

Ond, yn dilyn ei ddiswyddo, mae staff eraill yn dweud eu bod nhwthau’n poeni am eu diogelwch eu hunain, ac maen nhw’n beirniadu’r rheolwyr o fethu â thawelu eu hofnau.

“Mae swyddogion carchar eisoes yn wynebu mwy a mwy o drais, oherwydd bod yna gymaint o gyffuriau a chymaint o ddyledion ymhlith carcharorion,” meddai llythyr gan y POA. “Ac mae carchar Lerpwl yn garchar risg uchel.

“Mae swyddogion yn cael eu hyfforddi i ddal yn ôl ac i ymarfer hunan-reolaeth wrth geisio cadw trefn. Os ydyn nhw’n teimlo eu bod dan fygythiad, mae ganddyn nhw hawl i daro’n ôl os ydyn nhw’u hunain neu eu cydweithwyr dan fygythiad.

“Dyna ddigwyddodd yn achos y swyddog sydd wedi’i ddiswyddo’n annheg, felly mae ei gyd-swyddogion yn teimlo y gallan nhwthau golli eu gwaith os ydyn nhw’n eu hamddiffyn eu hunain.”