Mae tuag un o bob pump gweithiwr anabl wedi cael y profiad o weld ei gais am swydd yn cael ei wrthod, yn ôl canlyniadau ymchwil gan elusen Leonard Cheshire.

O ganlyniad, mae ymgyrchwyr yn dweud fod y mwyafrif o bobol anabl wedi eu “rhewi allan” o waith.

Mae canlyniadau’r ymchwil yn dangos hefyd, ar ol holi 1,600 o bobol anabl, bod eu tri chwarter nhw wedi rhoi’r gorau i weithio oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.

Roedd pôl ar wahân o 500 o reolwyr yn dangos bod dau o bob tri yn credu bod costau’r newid i greu gweithle sy’n addas i bobol anabl yn rhwystr rhag gyflogi person anabl.