Mae tair Aelod Seneddol wedi gadael y Blaid Geidwadol er mwyn ymuno â’r Grŵp Annibynnol newydd yn San Steffan.

Mae Heidi Allen, Anna Soubry a Sarah Wollaston yn beirniadu’r “modd trychinebus” y mae Theresa May wedi delio â Brexit, ac yn honni bod Prif Weinidog Prydain wedi methu â gwrthsefyll y Brexitwyr “caled” yn y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG).

“Dydyn ni ddim yn teimlo y gallwn ni aros ymhellach ym mhlaid Llywodraeth sydd â’i pholisïau a’i blaenoriaethau yng ngafael tynn yr ERG a’r DUP,” meddai’r tair mewn datganiad ar y cyd.

“Mae yna fethiant wedi bod i wrthsefyll Brexitwyr caled yr ERG sy’n gweithredu’n agored fel plaid o fewn plaid, gyda’i arweinydd, ei chwip a’i bolisi ei hun.

“Y diwedd i ni yw’r modd trychinebus y mae’r Llywodraeth wedi delio â Brexit.”

Hyd yn hyn, mae wyth o Aelodau Seneddol Llafur yn rhan o’r Grŵp Annibynnol, a gafodd ei sefydlu ddechrau’r wythnos gan rai o gyn-weinidogion cabinet yr wrthblaid, sy’n cynnwys Chuka Umunna, Luciana Berger a Chris Leslie.